Skip to content

S4C

Monday, 6 September 2010

Recipes

Rasberry and Almond Cake
Nerys 27/07/10

Cacen Mafon ac Almwn

Cynhwysion
200g menyn heb halen
200g siwgwr mân
700g mafon ffres neu lysi duon
2 wy mawr
100g blawd hunan godi
75g almonau mâl
1 llwy de rhunflas almwn


Dull
Twymch y ffwrn i 180°C/nwy rhif 4. Urwch dun cacen 20cm. Toddwch 75g o'r menyn ac ychwanegwch 75g o'r siwgwr. Twymwch ar wres isel tan bod y siwgr wedi toddi. Rhowch 500g o'r mafon yn y gymysgedd a throwch yn ofalus. Arllwyswch dros waleod y tun.

Hufenwch y menyn a'r siwgwr tan yn feddal ac ychwanegwch yr wyau yn raddol. Plygwch y blawd, almonau mâl a'r rhun almwn I mewn I’r gymysgedd. Os yw'r gymysgedd yn rhy sych, ychwanegwch ychydig o laeth. Rhowch y gymysgedd ar ben y mafon a choginiwch am tua 40 – 45 munud tan bod y gacen wedi codi ac yn euraidd.

Gadewch i oeri yn y tun cyn troi allan ar hambwrdd i oeri. Wedyn rhowch ar blat gyda weddill y mafon ar ei ben ac unrhyw surop sydd ar ôl yn y tun.

 

Send to friend

 

 

Latest Articles