Palava
50ml olew olewydd
1 winwnsyn wedi torri’n fân
1 tomato fawr heb y croen ac wedi malu
halen a phupur
1 tsili coch wedi torri’n fân
50g cig wedi coginio
25g corgimychiaid
175g sbigoglys (spinach) wedi torri’n fân
25g hadau pwmpen wedi malu
Rhowch yr olew mewn sosban drom a ffriwch y winwnsyn, y tomato a’r tsili nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch y cig, y corgimychiaid, y sbigoglys a’r hadau a choginiwch am 10 munud arall.
Gweiniwch gyda reis, yams, neu plantains.