Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Llun, 6 Chwefror 2012

Ryseitiau

Marmaled Orennau Seville
Nerys yn paratoi marmaled gyda'r orennau hyfryd o Sbaen

Marmalêd Orennau Seville
1.4kg orennau Seville
1 neu 2 lemwn
2 litr dwr
1.7kg – 2.5kg siwgr gwyn

Rhowch y ffrwythau mewn padell gyda’r dwr. Coginiwch gyda clawr am tua 2 awr a bod y ffrwythau’n feddal. Yna tynnwch y ffrwythau allan gan gadw’r suddion.
Hannerwch yr orennau a’r lemwn ac yna tynnwch y cnawd allan a’i rhoi mewn rhidyll er mwyn draenio’r sudd. Torrwch y croen fel y dymunwch.
Rhowch y suddion mewn padell mawr gyda’r siwgr ac ewch ati i droi’r cymysg dros gwres isel tan bydd y siwgr wedi datod. Ychwanegwch croen y ffrwythau a gadewch i’r cyfan berwi tan 20-30 munud a bod y marmalêd wedi’i osod. Bydd eisiau cael gwared o unrhyw ysgum ac adael i’r cyfan oeri am 5-8 munud cyn rhoi mewn jarau sydd wedi ei steraleiddio.


 

Gyrru i ffrind