Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Llun, 6 Medi 2010

Cyflwynwyr

Emma Walford
Un o gyflwynwyr Wedi 3, Emma Walford, sy'n ateb ein cwestiynau...

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich swydd?
Yn sicr yr amrywiaeth, does yr un rhaglen yn debyg i’r llall. A’r ffaith ei fod yn rhaglen fyw – all unrhywbeth ddigwydd!

Beth oedd eich swydd cyntaf?
Gweithio mewn siop yn Abergele.

A’r swydd waethaf rydych chi wedi cael?!
Fedrai’m deud bod fi ‘di casau unrhyw swydd. Dwi wedi bod yn lwcus!

Pa fwyd allwch chi fyth byw hebddo?
Bara! Wrth fy modd hefo tost. Faswn i byth yn medru stopio bwyta carbs!

Beth yw’r peth gwaethaf i chi wisgo’n gyhoeddus?
Yn anffodus ma ‘na ormod i’w rhestru ond dwi’n cofio gwisgo siwt aur unwaith – syniad da ar y pryd!

Petai chi’n anweledig am y dydd, be fase chi’n gwneud?
Mynd i siop lestri a gwthio popeth oddi ar y silffoedd!

Beth yw eich hoff air?

Spigoglys.

Ble mae eich hoff le yn y byd?
Adre.

Sut aethoch chi ati i ddechre cyflwyno yn y lle cyntaf?
Nes i geisio am swydd ymchwilydd yn HTV ac yn ystod y cyfweliad dyma nhw’n gofyn i mi drio am swydd cyflwyno ac mi ges i’r job!

Pa fath o gerddoriaeth ydych chi’n hoffi?
Pob math – yn dibynnu ar sut dwi’n teimlo. Dwi’n ffan o pop ac bron yn obsesiynol am Take That. Dwi’n hoffi bandiau fel Coldplay a’r Killers ond hefyd yn mwynhau cerddoriaeth glasurol.

Beth oedd y record cyntaf i chi brynu?
Hello gan Lionel Ritchie.

Ac yn olaf, oes ganddoch chi neges i’r gwylwyr...?

Diolch am fy nghroesawu i dîm Wedi 3. Gobeithio eich bod chi’n mwynhau y rhaglen a cofiwch gysylltu!
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf