Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Llun, 6 Medi 2010

Cyflwynwyr

John Hardy
Sesiwn holi ag ateb gyda un o gyflwynwyr Wedi 3, John Hardy

Mae John Hardy yn enedigol o Fangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Ymunodd gyda Tinopolis o’r BBC yn Medi 2004 i gyflwyno Prynhawn Da, ac aeth ati wedyn i gyflwyno Wedi 3 o’r cychwyn cyntaf. Mae bellach hefyd yn cyflwyno Wedi 7. Mae’n byw yng Nghaerdydd, ac mae ganddo ddau o feibion, Daniel a Geraint.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich swydd?
Yr amrywiaeth

Beth oedd eich swydd gyntaf?
Fel myfyrwiwr prentis i yrrwr dympar. Cyfrifydd wedi gadael coleg.

A’r swydd waethaf rydych chi wedi ei chael?!
Gweithio mewn ffatri ieir.

Pa fwyd na allech chi fyw hebddo?
Tomatos tun.

Beth yw’r peth gwaethaf i chi wisgo’n gyhoeddus?
Popeth yn edrych yn ddi-raen arna fi ond mi odd ginni bâr o drowsus golff oren llachar unwaith.

Petai chi’n anweledig am y dydd, be fase chi’n gwneud?
Edrych yn y drych.

Beth yw eich hoff air?
Sori

Ble mae eich hoff le yn y byd?
Soffa’r ystafell fyw.

Sut aethoch chi ati i ddechre cyflwyno yn y lle cyntaf?
Neb arall ar gael.

Pa fath o gerddoriaeth ydych chi’n ei hoffi?
Mae’n amrywio o ddydd i ddydd. James Taylor, Rod Stewart, Carole King, unrhyw beth efo geiriau da.

Beth oedd y record cyntaf i chi ei brynu?
1-2-3 gan Len Barry.

Ac yn olaf, oes ganddoch chi neges i’r gwylwyr...?
Byddwch amyneddgar.
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf