Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Llun, 6 Chwefror 2012

Y Cynghorwyr

Carys Tudor
Proffeil y steilydd cartref, Carys Tudor

Carys Tudor sydd yn cyflwyno yr eitemau ar Wedi 3 am y cartref, cynllunio a DIY.
Mae’n enedigol o’r Treuddyn ger y Wyddgrug ond erbyn hyn mae’n byw yn Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin. Mae wedi bod yn ymddangos ar Wedi 3 yn gyson ers ryw 4 mlynedd.

Cyn hynny, roedd hi’n gynllunydd theatr am tua 20 mlynedd, rhan fwyaf gyda Theatr Gorllewin Morgannwg. Aeth ati wedyn i gyflwyno tair cyfres o Gwaith Cartref yn y 90au, sef cyfres oedd yn rhoi gweddnewidiad DIY i gartrefi pobl, a dwy gyfres o Sgwadnewyddu.

Dechreuodd ei diddordeb mewn DIY pan brynodd dy yn Abertawe yn 1987, a’i adnewyddu yn llwyr dros gyfnod o bum mlynedd, a hynny ar ei phen ei hunan y rhan fwyaf. Buodd y gwaith roedd wedi bod yn gwneud yn adeiladu setiau theatr o gymorth iddi, ond dysgodd llawer iawn o DIY yr un pryd.

Mae ei chartref yn Llansteffan yn hen dy Fictorian, ac mae’r cynllun yn weddol driw i bernsarniaeth y ty.
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf